Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2018
Amser:
09.03 -
10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4758
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Gareth Griffiths, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion am y polisi presennol ar gyfer darparu gwasanaethau prosthetig, gan ofyn:
· pam mae'n ymddangos bod gwahaniaeth yn cael ei wneud rhwng breichiau a choesau;
· faint o geisiadau a gafwyd ar gyfer coesau prosthetig hamdden o dan y broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), ac amcan o'r gyfran a gymeradwyir;
· am fanylion am y gost ychwanegol gyfartalog sy'n gysylltiedig â darparu coes brosthetig hamdden i blentyn neu berson ifanc; ac
· i ba raddau y mae technoleg argraffu 3D yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, neu y gellid ei defnyddio yn y dyfodol, i gynhyrchu aelodau prosthetig.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd mewn ymateb i'r llythyr gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r deisebydd yn gweithio iddo.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Openreach a chan Arweinydd y Tŷ a chytunodd i aros am gyhoeddiad ynghylch y cynllun a fydd yn olynu Cyflymu Cymru, gan ofyn am fanylion bryd hynny ynghylch a all Llangenni ddisgwyl cael cysylltiad band eang cyflym iawn drwy'r rhaglen honno .
Trafododd y Pwyllgor ddatganiad diweddar y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn am benderfyniad y Gweinidog Tai ac Adfywio, gan egluro'r un pryd bod y Pwyllgor o'r farn nad oes llawer yn rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r mater gan Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl i'w swyddogion gwblhau eu hadolygiad o'r pwnc hwn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl i'w swyddogion gwblhau eu hadolygiad o'r pwnc hwn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet, a barn y deisebydd, cyn ystyried a oes angen unrhyw gamau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach y deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar sail:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y Pwyllgor bellach wedi cael cadarnhad nad oes gan y Cynulliad na Llywodraeth Cymru ddim bwriad adolygu'r gofynion rheoleiddiol yn y maes hwn ar hyn o bryd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn a oes ffordd o drefnu cyfarfod rhwng y deisebydd a'r Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am nad yw'n bosibl ei dwyn ymlaen na blaenoriaethu ei thrafod ymhellach yn niffyg cysylltiad â'r deisebydd.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'r bwriad i'w gyhoeddi cyn toriad yr haf, gyda'r bwriad o gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a chan Gareth Griffiths.
Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ofyn am dystiolaeth ychwanegol gan ystod o randdeiliaid mewn perthynas â phwnc y ddeiseb.